Croeso i wasg Gomer. Rydym ni’n gwmni argraffu teuluol gyda’r pwyslais ar ansawdd, gwasanaeth a rhagoriaeth dechnegol.
Sefydlwyd y cwmni yn 1892 ac rydym ni bellach yn gweithredu o safle wedi’i adeiladu’n bwrpasol yng nghanolbarth Cymru. Rydym yn gwasanaethu cwsmeriaid ar draws y Deyrnas Gyfunol sy’n medru elwa ar ein buddsoddiad yn y dechnoleg ddiweddaraf a’n staff profiadol ac ymrwymedig.
Yr hyn sy’n ein rhoi ni ar y blaen i argraffwyr eraill yw’r gallu i gynnig yr ystod gyflawn o gynnyrch wedi’i argraffu, o bapur busnes i lyfrau clawr caled o’r safon uchaf, sy’n cynnwys rhwymo masnachol, i gyd o dan ein rheolaeth ni, o dan yr un to. Ein harbenigedd yw gwaith rhwymo clawr caled o’r ansawdd gorau sy’n defnyddio ein gwasg berffeithio Heidelberg XL106 a’r llinell rwymo clawr caled Kolbus.
Ar y tudalennau yma gallwch ddod o hyd i fwy amdanom ni a chysylltu â ni i holi am bris ar gyfer eich anghenion argraffu.
Os oes gennych ddiddordeb yn ein hadran gyhoeddi cliciwch yma.