Ansawdd

Mae Gwasg Gomer Cyf. yn arbenigo mewn argraffu leithograffig a digidol ynghyd â’r gwasnaethau reprograffig, adran gyfrifiadurol a rhwymo gyda’r gorau yn y diwydiant. Ansawdd da yw ein blaenoriaeth ac mae ein peirianwaith a systemau wedi’u hanelu at gael y gwaith yn iawn y tro cynta a bob tro.

Mae peirianwaith modern yn golygu bod nifer o brosesau rheoli yn gynyddol atomataidd, ond er hynny rydym ni’n gwirio ansawdd yn fanwl ar gamau allweddol yn y broses gynhyrchu fel rhan o’n gweithdrefnau safonol. Mae hyn yn golygu rhoi cadarnhad ansawdd wrth gwblhau bob cam yn y broses gynhyrchu yn ogystal â chyn dosbarthu.

Nid ydym yn honni nad oes problemau’n digwydd weithiau, ond rydym yn ymrwymo i gywiro pethau yn ogystal â chynnal ymchwiliad llawn i beth aeth o’i le a pham. Felly, drwy wneud hynny rydym ni’n dysgu a gwella’n barhaus mewn dull systematig a strwythuredig. Mae ein profiad hefyd wedi dangos i ni fod gweithio’n agos gyda’n cwsmeriaid yn ystod camau cyntaf prosiect yn rhan hanfodol o sicrhau boddhad wrth ddosbarthu’r cynnyrch gorffenedig.

Nod ein system ansawdd yw::
– Sicrhau gwelliannau cyson mewn ansawdd cynnyrch, drwy weithdrefnau ac arferion da
– Sicrhau arferion da i leihau difetha a gwastraffu gwaith
– Buddsoddiad parhaus mewn peirianwaith a systemau i gynnal pa mor gystadleuol yr ydym ni yn y diwydiant
– Cyflogi staff ymrwymedig â sgiliau gyda mynediad i hyfforddiant a datblygiad er mwyn sicrhau gwelliant i ansawdd y cynnyrch