Cwrdd a’r Tîm
![]() |
Jonathan Lewis Rheolwr Gyfarwyddwr e-bost: jonathan@gomer.co.uk Ar ôl mynychu’r Coleg Argraffu yn Llundain, ynghyd â 5 mlynedd o brofiad gydag argraffwr blaenllaw yn y ddinas, cymerodd Jonathan yr awenau yn 1995. Ef yw’r bedwaredd genhedlaeth o deulu Lewis i redeg y cwmni ac fe fu’n gyfrifol am y rhaglen ymestyn ddiweddar. |
![]() |
Rod Lewis Cyfarwyddwr Technegol e-bost: rod@gomer.co.uk Mae Rod yn aelod arall o bedwaredd genhedlaeth y teulu, ac mae ganddo gyfrifoldeb dros reoli’r adran rwymo sy’n cynnwys dau rwymwr, Stahl, Llinell Rwymo Wohlenberg Golf a llinell gwnïo Heidelberg ST400 6 gorsaf a chlawr. Ef sydd hefyd yn goruchwylio’r offer Kolbus newydd ar gyfer rhwymo clawr caled.. |
![]() |
Pam Brayley Amcangyfrifydd e-bost: pam@gomer.co.uk Bu Pam yn gweithio mewn sawl rôl yng ngwasg Gomer cyn symud i’w swydd bresennol yn amcangyfrifo ac mae hynny’n rhoi dealltwriaeth gadarn iddi o’r prosesau sydd ynghlwm wrth y gwaith. |
![]() |
John B. Lewis Gwasanaethau Cwsmeriaid e-bost: john@gomer.co.uk Mae gan John brofiad o dros 25 mlynedd yn y diwydiant argraffu. Mae ei afael ar y rhaglen argraffu ynghyd â phersonoliaeth hawdd mynd ato yn ei wneud yn gyswllt delfrydol gyda chwsmeriaid a darpar gwsmeriaid. |
![]() |
Pit Davies Uwch Amcangyfrifydd e-bost: pitd@gomer.co.uk Mae Pît yn gyfarwydd â pharatoi prisiau yn gyflym yn ogystal â chynghori cwsmeriaid ar y dulliau fwyaf cost effeithiol o gynhyrchu mathau gwahanol o waith. Bu’n rhan o’r cwmni am dros 30 mlynedd ac mae wedi datblygu o gynhyrchu ffilm i weithio ar y Macs cyn cael ei benodi i’w swydd bresennol. |